Hyfforddi
Cynllunio ar gyfer y We
Cefnogi TG
Cynllunio Cronfeydd Data
Rheoli Projectau
Golwg ar y Cwmni
Cysylltwch a Ni
English version

Cynllunio ar gyfer y We

Mae amgylchedd y we wedi profi'n offeryn amhrisiadwy ar gyfer dangos i'ch cwsmeriaid beth sydd gennych chi i'w gynnig iddyn nhw. Gallwn ni drosglwyddo'ch holl ddeunydd hyrwyddo, nwyddau a gwybodaeth yn electronig a'u diweddaru yn ôl eich dymuniad chi. Gall cynigion newydd, nodweddion newydd a datblygiadau newydd gael eu hychwanegu ar sail ad-hoc i rannu gwybodaeth â'ch cwsmeriaid ac i ddenu cwsmeriaid newydd.

Ein nod yw deall eich busnes a thrwy'r ddealltwriaeth honno helpu marchnata'ch gwasanaethau a chynnyrch ar y Rhyngrwyd. Byddwn ni'n darparu syniadau a chynlluniau i'ch helpu chi cael y gorau o'ch gwefan a byddwn ni'n dangos ichi sut i'w diweddaru'ch hun heb angen profiad cynllunio. Fel arall, gallwn ni letya'ch gwefan drosoch chi.

Mae cyrsiau Rhyngrwyd a Chynllunio ar gyfer y We ar gael.

Nodau

Cyn gwneud unrhyw waith ar gyfer gwefan, yn gyntaf dylech chi ystyried nod y wefan. Gofynnwch ichi'ch hun beth rydych chi eisiau ei gael o'r wefan, a fydd hi'n rhoi'r canlyniadau rydych chi'n eu disgwyl, sut byddwch chi'n rhoi gwybod i bobl am y wefan.

Penderfynwch ar beth rydych chi am ei gael o'r wefan. Er enghraifft a fydd y wefan yn cael ei chynllunio ar gyfer:

  • marchnata / hysbysebu i gynulleidfa fyd-eang
  • arddangos cynnyrch ar-lein
  • gwerthu ar-lein
  • cyfathrebu â chwsmeriaid / cyflenwyr

P'un ai penderfynu ar eich gwefan gyntaf neu'n diweddaru un bresennol rydych chi, gall @ce gynnig ymgynghoriad rhad ac am ddim heb unrhyw ymrwymiad, er mwyn caniatáu ichi wneud penderfyniad gwybodus am yr ateb gorau i'ch anghenion chi.


Cost

Yn naturiol un o'r materion pwysicaf wrth ystyried gwefan yw faint bydd hi'n costiimi. Yn anffodus nid yw gwefannau yn debyg i brynu cynnyrch neu wasanaeth busnes arferol

  • enw parth (domain name)
  • cynllun - darparu'ch logo neu'ch testun eich hun yn electronig
  • lletya
  • cynnal a chadw (osgoi gwybodaeth sy'n ddibynnol ar ddyddiad)

Cynllun

Nid oes unrhyw reolau pendant sy'n gosod allan sut i gynllunio gwefan dda. Mae'n rhywbeth personol a bydd dewis un person yn wahanol i rywun arall. Fodd bynnag, mae nifer o ganllawiau ymarfer gorau y gallwch chi eu dilyn megis:

  • defnyddio thema gyson er mwyn sicrhau'ch bod
  • chi'n cyfleu'ch neges chi
  • dewis eich lliwiau a ffontiau yn ofalus
  • edrych ar wefannau'ch cystadleuwyr i gael syniadau
  • Peidiwch fynd dros ben llestri. Os nad ydy rhywbeth yn angenrheidiol i'r wefan, gofynnwch ichi'ch hun a ydy e'n angenrheidiol er mwyn cyrraedd y nod

Beth bynnag bo'ch dewis, bydd Ace-Training yn cydweithio â chi, gan roi cyngor ac arweiniad i sicrhau cael y gorau o'ch gwefan chi er mwyn cyrraedd y nod a chyflawni'ch gofynion chi.


Marchnata

Mae llawer o sefydliadau yn gwneud y camgymeriad o ystyried gwefan fel rhywbeth i gymryd lle marchnata traddodiadol, fodd bynnag, er y dylech chi ddefnyddio'r Rhyngrwyd fel offeryn marchnata, ni ddylech chi ei hystyried fel rhywbeth i gymryd lle marchnata. Nid yw cynhyrchu gwefan ragorol yn sicrhau y bydd pobl yn ymweld â hi.

Gall Ace-Training gynnig cyngor a chanllawiau dibynadwy ar ffyrdd o hybu'ch gwefan, a gallwn ni roi rhestr wirio syml ichi er mwyn sicrhau eich bod chi wedi gwneud popeth posibl i greu'r argraff orau gyda'ch gwefan.


Cynnal a chadw

Gan ddibynnu ar natur eich gwefan, efallai y bydd angen newid rhai manylion a thudalennau, megis bwydlen bwyty, neu efallai bod deunydd arni sy'n ddibynnol ar ddyddiad. Ar y fater hon, gall Ace-Training gynnig nifer o atebion i gwrdd â'ch anghenion, boed yn gontract cynnal a chadw, diweddaru ar sail 'yn ôl yr angen', neu hyd yn oed hyfforddi'ch pobl eich hun i gynnal y wefan.


 

Canllaw cam i gam i dylunio safwe

Ffôn: 01269 832399 Symudol: 07909 785900 E-bost: info@ace-training.co.uk www.ace-training.co.uk
Tircoed Foelgastell Cross Hands Caerfyrddin SA14 7EL
(h) @ce-training 2002