Hyfforddiant
Byddwn
ni'n rhoi'r holl atebion i'ch anghenion hyfforddi chi.
Byddwn ni'n cynllunio rhaglen eich cwrs, byddwn ni'n trefnu lleoliad,
byddwn ni'n cytuno ar amser a dyddiad sy'n gyfleus ichi. Byddwn
ni'n darparu llawlyfrau hyfforddi. Byddwn ni'n cyflwyno tystysgrif
ichi wedi ichi gwblhau cwrs. Rydyn ni'n darparu archwiliad hyfforddi
er mwyn barnu effeithiolrwydd yr hyfforddiant mae'ch pobl chi'n
ei dderbyn.
Dilynwch y camau isod i drefnu cwrs.
Canllaw Cam wrth Gam i drefnu cwrs
1)Cysylltwch ag Ace-Training
trwy ffôn, e-bost
neu'r wefan
2) Rhowch wybod inni faint o bobl sydd angen hyfforddiant.
Efallai fod angen hyfforddiant arnoch chi'ch hun, neu ar aelodau
o'ch staff. Efallai fod eisiau hyfforddiant un-i-un neu fel grwp
arnoch chi. Yn ddelfrydol 8 person ar y mwyaf ddylai gael hyfforddiant
gan un tiwtor.
3) Dywedwch wrthon ni beth yw'ch anghenion hyfforddi
chi. Gallwn ni eich helpu i benderfynu ar eich anghenion hyfforddi
trwy Ffurflenni Dadansoddi Anghenion Hyfforddi sydd wedi'u haddasu
ar eich cyfer. Yn gyffredinol, ydych chi eisiau
- Mynd i'r afael â TGC
- Rhedeg eich busnes eich hun gan ddefnyddio TGC
- Cadw ar ben datblygiadau technoleg
- Anfon / Derbyn e-bost
- Syrffio'r we
- Dysgu am brosesu geiriau
- Dysgu am daenlenni
- Dysgu am gronfeydd data
- Dysgu am gyflwyniadau
- Dysgu am reoli projectau
- Dysgu am gynllunio ar gyfer y we
- Dysgu am Windows
- Gwella'ch gwybodaeth am becynnau penodol
- Datblygu'ch gwybodaeth am becynnau penodol
- Dysgu beth yw TGC
4) Penderfynu ble rydych chi am gael eich hyfforddi
e.e.
- Mewn ystafell TG yng Ngogledd Cymru
- Mewn ystafell TG yn Ne Cymru
- Mewn ystafell TG yng Ngorllewin Cymru
- Yn eich gwaith
- Gartre
- Arall
5) Penderfynu am ba hyd rydych chi am gael eich
hyfforddi e.e.
- 1/2 diwrnod
- Diwrnodau llawn
- Sesiynau wrth yr awr
6) Cost
Unwaith y byddwn ni wedi penderfynu ar eich anghenion, byddwn ni'n
gosod pris ichi. Mae'n prisiau ni'n dechrau o £85. Bydd pob
cwrs yn cael ei addasu i gyflawni'ch anghenion TGC penodol chi.
Byddwn ni'n cynnig:
- Hyfforddiant hyblyg
- Hyfforddiant i gyflawni'ch gofynion penodol chi
- Deunyddiau hyfforddi
- Cinio a lluniaeth
- Tystysgrif
- Cefnogaeth wedi'r hyfforddiant
7) Pa iaith?
- Saesneg
- Cymraeg
- Cymraeg a Saesneg
8) Gofynion Arbennig?
- Dyslecsig
- Nam ar y golwg
- Nam ar y clyw
|