Hyfforddi
Cynllunio ar gyfer y We
Cefnogi TG
Cynllunio Cronfeydd Data
Rheoli Projectau
Golwg ar y Cwmni
Cysylltwch a Ni
English version

Golwg ar y Cwmni

Dechreuwyd Ace-Training ym 1987 gan Menna Williams BSc (gydag Anrhydedd) sydd wedi ennill cydnabyddiaeth Hyfforddwraig Ardystiedig Microsoft (MCT), Tystysgrif CompTIA CTT+, Tystysgrif IPD, sy'n Asesydd CGC (yn y Gymraeg), ac sydd ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer Tystysgrif Athrawon mewn Anawsterau Dysgu Penodol.

I gychwyn bu Ace-Training yn darparu cyrsiau hyfforddi ar gyfer sefydliadau cyhoeddus a phreifat. Mae'r sefydliadau sydd wedi derbyn hyfforddiant yn cynnwys Awdurdodau Iechyd, cyrff y Llywodraeth, sefydliadau addysgol, sefydliadau megis Y Bathdy Brenhinol, Undeb Rygbi Cymru, Costain Civil Engineering Ltd, Nwy Prydain, Y Swyddfa Gymreig a llawer o gwmnïau cyhoeddus a phreifat a gweithwyr proffesiynol eraill.

Mae S4C a Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi elwa ar gyrsiau TG trwy gyfrwng y Gymraeg.

Byddwn ni'n cynnig cyrsiau ar Lefelau Sylfaenol, Canolig ac Uwch. Gyda hyfforddwyr (MCTs) profiadol a chymwysedig, mae Ace-Training yn ymfalchïo yn eu gallu i gyflwyno cyrsiau'n llwyddiannus, boed i bobl sydd ag ofn technoleg neu i ddefnyddwyr hyderus a phrofiadol.

Er mwyn cadw ar ben newidiadau cyflym mewn technoleg, mae Ace-Training yn diweddaru'u sgiliau'n barhaus ac yn amrywio'u gwasanaethau. Gallwn ni gynllunio cronfeydd data, creu gwefannau, darparu atebion ar gyfer y swyddfa trwy greu templedi ac ysgrifennu deunyddiau hyfforddi ar gyfer systemau sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar eich cyfer.

Bydd Ace-Training yn galw ar yr arbenigedd angenrheidiol er mwyn cael yr ateb i anghenion busness. Mae'n hyfforddwyr yn brofiadol ac yn meddu ar gymwysterau MCSE a Thystysgrif Microsoft yn ogystal â sgiliau cyfathrebu rhagorol. Mae gwybodaeth gadarn a dibynadwy o VBA a ASP gan ein datblygwyr cronfeydd data. Mae gwybodaeth gadarn a dibynadwy o amryw Offer i'r We gan ein datblygwyr gwefannau gan gynnwys Dreamweaver Ultradev.

 

Ffôn: 01269 832399 Symudol: 07909 785900 E-bost: info@ace-training.co.uk www.ace-training.co.uk
Tircoed Foelgastell Cross Hands Caerfyrddin SA14 7EL
(h) @ce-training 2002